
Mae'r gwasanaeth Meddygaeth Niwclear Heb Ddelweddu yn cynnal archwiliadau Meddygaeth Niwclear diagnostig gan ddefnyddio radiofferylliaeth. Mae'r profion diagnostig hyn naill ai'n in-vitro (sef samplu gwaed neu wrin er mwyn asesu paramedrau ffisiolegol) neu'n in-vivo (sef mesuriadau cyfradd cyfrif sy’n cael eu cymryd drwy ddefnyddio chwiledydd gama neu gamera gama).
Y prawf mwyaf cyffredin yw’r prawf Cyfradd Hidliad Glomerwlaidd (GFR), sef prawf ar yr arennau, lle rhoddir ychydig bach o olinydd radiofferyllol i chi ar ffurf pigiad. Yna caiff y samplau gwaed eu casglu.
Mae swm yr ymbelydredd yn y samplau’n cael ei gyfrif a rhoddir y canlyniadau ar ffurf graff. Yna defnyddir y graffiau i benderfynu a yw'r samplau o fewn y terfyn arferol.